Gellir priodoli sefydlu Dawnswyr Talog i dri person sef Eirlys a Mansel Phillips ac Eirwen Davies. Cyfarfod ar un o gyrsiau Cymdeithas Ddawns Werin Cymru wnaeth y tri a dechrau siarad am y syniad o sefydlu parti dawns yn ardal Trelech. Wedi dychwelyd adref buont wrthin holi ffrindiau ac yn cyhoeddi eu bwriad mewn capeli lleol. Yna, ym mis Medi, 1979, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Dawnswyr Talog.

I ddechrau, twmpathau lleol ac ambell i arddangosfa oedd prif ddyddiadaur calendr ond, gydag amser, tyfodd llwyddiant ac enwr tm. Ers y tro cyntaf iddynt gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw, maent wedi mynd o nerth i nerth. Erbyn heddiw, maen deg dweud mai Dawnswyr Talog yw un o grwpiau dawns traddodiadol amlycaf Cymru, ac ers 1979 maent yn sicr wedi rhoi pentref bychan Talog, sydd nepell o Gaerfyrddin, ar y map!

Ar nos Fawrth, yn Neuadd Talog, maer dawnswyr ar cerddorion yn cyfarfod ond mae dylanwad Dawnswyr Talog yn ymestyn tipyn pellach na hyn. Yn sgl amryw o deithiau tramor sefydlwyd cyfeillgarwch gyda thimau dawnsio Boerke-Naas yn Fflandrys a Nar a Lau yn Sweden, yn ogystal Chr Meibion La Bajona o Bormio yn yr Eidal. Ym mis Gorffennaf 2002, dychwelodd rhai or aelodau i Lesneven, yn Llydaw, i ddathlu gefeillior dref gyda thref Caerfyrddin - ugain mlynedd wedi eu hymweliad cyntaf. Yn nes at adref, mae nifer o aelodaur tm yn hyfforddi dawnsio a chlocsio mewn ysgolion a chlybiau ac mae rhai cyn-aelodau wedi mynd ati i sefydlu timoedd newydd sbon. Y fesen yn dderwen a ddaw, medd yr hen ddihareb!

Yn ogystal hybu dawnsio gwerin Cymreig prif amcanion Dawnswyr Talog yw diddanu a chael hwyl, oherwydd dymar pethau syn mynd i sicrhau bod cyfoeth ein traddodiad dawns yn parhau. Maer grwp yn cynnig rhaglen amrywiol syn cynnwys dawnsiau gwerin o bob cwr o Gymru; dawnsiau clocsio; dawnsiau traddodiadol ac ambell ddawns wreiddiol. Mae yna rywbeth at ddant pawb.

Os hoffech weld Dawnswyr Talog yn eich twmpath; cyngerdd neu w^yl, neu os hoffech ymuno ni, cliciwch ar yr adran Cysylltu ar y wefan.