Newyddion / News

Dawnswyr Talog
Dawnswyr Talog3 weeks ago
Penblwydd Priodas Aur Hapus i Mansel ac Eirlys heddiw 💛 Diolch i chi am eich holl waith diflino i Ddawnswyr Talog. Rydym yn gwerthfawrogi eich ymroddiad yn fawr iawn!

A phob lwc i’w merch Lleucu sy’n priodi heddiw hefyd 💍💒
Mwynhewch eich diwrnod 🥳🎉
Dawnswyr Talog
Dawnswyr Talog4 weeks ago
Nadolig Llawen i chi gyd wrth holl aelodau Dawnswyr Talog 🎄🎅🏻🎁
Dawnswyr Talog
Dawnswyr Talog
Dawnswyr Talog2 months ago
Edrych ymlaen i gynnal Twmpath Santes Dwynwen ar 25ain o Ionawr 2025 yn Neuadd Tysul Hall - Llandysul. Diolch CARNIFAL LLANDYSUL & PONTWELI CARNIVAL am y gwahoddiad 💃🎶😍
Dawnswyr Talog
Dawnswyr Talog2 months ago
Gŵyl Aled - Gŵyl Cerdd Dant 2024

Teithiodd nifer o’n haelodau i’r Wyddgrug dros y penwythnos i gystadlu yng Ngŵyl Aled - Gŵyl Cerdd Dant 2024. Cafwyd diwrnod arbennig 🌟

Parti Dawnsio Agored
1af - Dawnswyr Talog

Stepio Unigol Agored
2il - Luned Defis

Grŵp Stepio -
1af - Hafwyl (Esther, Caian, Erin a Aaron)
2il - Dawnswyr Talog

Llongyfarchiadau mawr i bawb a fuodd yn cystadlu ddoe 👏🏻 A diolch enfawr i’r holl hyfforddwyr a chyfeilyddion am eu gwaith caled dros yr wythnos diwethaf 🤩
Dawnswyr Talog
Dawnswyr Talog2 months ago
Roedd sŵn clocsiau a lleisiau rhai o Ddawnswyr Talog ar Radio 3 ddoe (8-11-2024)! Gallwch glywed y clip ar BBC sounds ar y ddolen isod (am 2:36) 📻

As part of BBC Radio 3’s Day of Dance on (8-11-24) you can hear a ‘dance card’ clip of Dawnswyr Talog! Link below (and at 2:36):

https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m0024dy8?partner=uk.co.bbc&origin=share-mobile
Dawnswyr Talog
Dawnswyr Talog3 months ago
Braint oedd noddi’r gystadleuaeth Dawnsio Gwerin 28 neu Iau dydd Sadwrn yn Eisteddfod CFfI Cymru Wales YFC Sir Gâr er cof am Elsbeth Page 🤍

Llongyfarchiadau mawr i bawb 👏🏻👏🏻