Hanes / History

English ▼


Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Dawnswyr Talog ym mis Medi 1979 ac mae’r diolch am hynny i dri pherson sef Eirlys a Mansel Phillips ac Eirwen Davies.

I ddechrau, twmpathau lleol ac ambell i arddangosfa oedd prif ddyddiadau’r calendr ond, gydag amser, tyfodd llwyddiant ac enw’r tîm. Erbyn heddiw, mae’n deg dweud mai Dawnswyr Talog yw un o grwpiau dawns traddodiadol amlycaf Cymru, ac ers 1979 maent yn sicr wedi rhoi pentref bychan Talog, sydd nepell o Gaerfyrddin, ar y map!

Mae’r dawnswyr a’r cerddorion yn cyfarfod yn Neuadd Talog ond mae dylanwad Dawnswyr Talog yn ymestyn dipyn pellach na hyn. Mae cyfeillgarwch gyda thimau dawns led-led Ewrop, ac ymweliadau â gwyliau gwerinol amrywiol wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i Dawnswyr Talog.

Yr Wyl Ban Geltaidd, Carlow, 2016

Yn nes at adref, mae nifer o aelodau’r tîm yn hyfforddi dawnsio a chlocsio mewn ysgolion a chlybiau ac mae rhai cyn-aelodau wedi mynd ati i sefydlu timoedd newydd sbon. Y fesen yn dderwen a ddaw, medd yr hen ddihareb!

Yn ogystal â hybu dawnsio gwerin Cymreig, prif amcan Dawnswyr Talog yw diddanu a chael hwyl, oherwydd dyma sy’n mynd i sicrhau bod cyfoeth ein traddodiad dawns yn parhau. Mae’r grŵp yn cynnig rhaglen amrywiol sy’n cynnwys dawnsiau gwerin o bob cwr o Gymru; dawnsiau clocsio; dawnsiau traddodiadol ac ambell ddawns wreiddiol – rhywbeth at ddant pawb! 

English Version here

The first meeting of Dawnswyr Talog dance team was held in September 1979, thanks to three visionary people: Eirlys and Mansel Phillips and Eirwen Davies.

Bormio, Italy, 1987

Initially, the calendar consisted of local dance ceilidhs (known as a twmpath dawns in Welsh) and occasional exhibitions but, as the team developed, it built its national and international reputation. Today, it is fair to say that Dawnswyr Talog dancers are one of Wales’s most prominent traditional dance groups, and since 1979 they have certainly put the small West Wales village of Talog, close to Carmarthen, on the map!

The dancers and musicians meet at Talog Hall but the influence of Dawnswyr Talog extends far beyond this. Friendships with dance teams throughout Europe, and visits to various folk festivals have given Welsh traditional dance an international platform.

Closer to home, a number of team members teach traditional dance and clogging in various schools and clubs – some former team members have even set up brand new teams. The acorn becomes an oak, so to speak.

As well as promoting Welsh folk dancing, Dawnswyr Talog’s main aim is to entertain and have fun, as this is the best way to ensure that the richness of our dance tradition continues. The group offers a varied program that includes folk dances from all over Wales; clog dancing; traditional dances and some original dances – something for everyone!